O ganlyniad i bandemig COVID-19, mae angen mwy o wirfoddolwyr a chymorth i bobl sy’n cael anawsterau ariannol yn ein cymunedau.
Mae’r Gronfa Frys Ddewisol Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd wedi’i lansio i gefnogi’r rhai mwyaf anghenus.
Mae’r gronfa ar gael i unigolion a theuluoedd sy’n profi caledi difrifol, pan nad oes unrhyw opsiwn arall ar gael.
Rydym wedi creu’r gronfa frys i helpu gyda threuliau fel:
- talu am hanfodion fel nwy a thrydan pan na all aelwydydd wneud hynny,
- atgyweiriadau hanfodol i bopty neu beiriant golchi, a
- dodrefn hanfodol neu offer i fynd i’r afael ag amddifadedd digidol.